Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

 

Cofnodion

 

 

Statws: Yn aros am gymeradwyaeth cyd-gadeiryddion

 

Dyddiad y cyfarfod

4 Mehefin 2014

 

Yn bresennol

Mark Isherwood AC (Ceidwadwyr Cymreig – Cyd-gadeirydd) Rebecca Evans AC (Llafur Cymru – Cyd-gadeirydd), Aled Roberts AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Fiona McDonald (Anabledd Cymru), Owen Williams (Vision in Wales), Rebecca Phillips (Vision in Wales – cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd), Rhian Davies (Anabledd Cymru); Vikki Butler (Barnardos); Tom Raines (Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant); Ruth Coombs (Mind Cymru), Will Evans, Paul Warren (Diverse Cymru), Michelle Fowler-Poe (Cymdeithas Ddeintyddol Prydain), Kate Thomas (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent), Sian Morgan (Remploy), Jamie Westcombe (Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol), Clive Emery, Jackie Davies (Llywodraeth Cymru), Owen Williams (Cyngor Cymru i’r Deillion), James Crowe (Anabledd Dysgu Cymru), Jennie Lewis, Tom Davies (Swyddfa David Melding AC), Bob Gunstone, Jo Powell (Pobl yn Gyntaf Cymru)

 

Ymddiheuriadau

 

1.

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd RE bawb i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd. Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol blynyddol ynghyd â chyflwyniadau a diweddariadau cyn y cyfarfod.

 

2.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

Cynhaliwyd y weithdrefn ffurfiol o benodi Cadeiryddion ac Ysgrifenyddion. Cynigiodd Ruth Coombs Rebecca Evans AC a Mark Isherwood AC yn gyd-gadeiryddion ac eiliwyd hynny gan Jim Crowe. Cynigiodd Jim Crowe ac Owen Williams Paul Swann yn ysgrifennydd.

 

Diolchodd RE Anabledd Cymru a Paul Swann am eu gwaith gyda’r Grŵp.

 

Nododd MI y byddai angen llunio adroddiad blynyddol a chyfrifon ar gyfer y cyfarfod cyffredinol blynyddol nesaf.

 

3.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyflwyniadau:

 

Canfyddiadau ymchwil o arolwg gwrth-fwlio cyflwynwyd gan Vikki Butler, Uwch Swyddog Ymchwil a Pholisi, Barnardos.

 

Siaradodd VB am y canfyddiadau ymchwil yn dilyn arolwg gwrth-fwlio. Dangosodd VB rhai o’r prif negeseuon a ddaeth o’r ymchwil. Roedd rhai ohonynt yn nodi’r angen am well cymorth amrywiaeth yn y gymuned mewn lleoliadau ieuenctid prif ffrwd. Nodwyd fod athrawon angen gwell adnoddau i ddelio â bwlio ac roedd llawer yn teimlo y dylai Llywodraeth Cymru arwain y gwaith ar wrth-fwlio. Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan Barnardo, www.barnardos.org.uk.

 

Cam i’w gymryd: Y grŵp i ysgrifennu at Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, ynghylch y canfyddiadau ymchwil ac yn gofyn am ei ymateb i’r argymhellion ynghylch rôl Llywodraeth Cymru.

 

 

Marc Perfformiad Ansawdd a Chod Ymarfer Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol – cyflwyniad gan Tom Raines, Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant.

 

Roedd yr Adran Iechyd a’r Bwrdd A4A wedi gofyn i’r Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant weithio mewn ymgynghoriad â darparwyr, defnyddwyr a chomisiynwyr gwasanaethau eiriolaeth i adeiladu ar waith Gweithredu er Eiriolaeth a diweddaru’r gwaith hwnnw. O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae’r Marc Perfformiad Ansawdd wedi’i adolygu. Mae ar gael i sefydliadau sy’n darparu eiriolaeth annibynnol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gellir cael rhagor o wybodaeth a gwneud ceisiadau drwy wefan newydd a sefydlwyd gan y Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant i reoli’r broses asesu www.qualityadvocacy.org.uk

 

 

 

Arolwg Eiriolaeth Mind Cymru – cyflwyniad gan Ruth Coombs, Rheolwr Dylanwadu a Newid, Mind Cymru.

 

Er mwyn adolygu effeithiolrwydd y ffordd y caiff Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ei gweithredu, cyflwynodd RC rai o’r canfyddiadau o’u harolwg ar brofiad cleifion mewnol o eiriolaeth iechyd meddwl.  Yn dilyn sgyrsiau gyda thros 100 o gleifion mewnol, mae’r canfyddiadau hyd yma yn dangos bod cynnydd yn nifer y bobl sy’n gymwys i gael cynlluniau gofal a thriniaeth. Bydd adroddiad ar yr holl ganfyddiadau yn cael eu dosbarthu maes o law.

 

 

Gwelliant eiriolaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) – cyflwyniad gan Rhian Davies, Anabledd Cymru.

 

Roedd RD yn falch o nodi bod yr holl welliannau ar eiriolaeth wedi’u derbyn a byddant yn ymddangos yn y Ddeddf.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grwpiau technegol i gynghori ar y gwaith o ddrafftio Rheoliadau a Chodau Ymarfer ar gyfer agweddau penodol ar y Ddeddf e.e. Fframwaith Cymhwysedd, Taliadau Uniongyrchol a Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Hyd yma, nid oes gwybodaeth am pryd y caiff y Grŵp Technegol ar Eiriolaeth ei sefydlu na phwy fydd yn rhan ohono.

 

Cam i’w gymryd: y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd i ysgrifennu at Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gofyn am amserlen ac aelodaeth y Grŵp Technegol ar Eiriolaeth.

 

Gwahoddodd MI gwestiynau o’r llawr mewn cysylltiad â’r tri chyflwyniad a roddwyd ar ‘eiriolaeth’.

 

Gofynnwyd cwestiwn am y sylw am Eiriolwyr yn teimlo eu bod yn cyflawni dyletswyddau ‘gweithiwr cymdeithasol da’. Gofynnwyd a fyddai gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cynnwys mewn sgyrsiau yn y dyfodol er mwyn rhannu gwybodaeth.

 

Cytunodd TR i fwydo hyn yn ôl.

 

 

Y diweddaraf ar y gronfa byw’n annibynnol – Fiona McDonald

Rhoddodd FM ddiweddariad cryno. Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad yn fuan i benderfynu ar ddyfodol y gronfa byw’n annibynnol yng Nghymru. Anogodd FM aelodau i ymateb i’r Ymgynghoriad.

 

Cam i’w gymryd: Aelodau’r grŵp trawsbleidiol i ymateb i’r ymgynghoriad ar y gronfa byw’n annibynnol

 

Cam i’w gymryd: Y grŵp trawsbleidiol i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ganfod ble mae’r gronfa yn berthnasol i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

 

Adrodd ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau – Rhian Davies

Dywedodd RD wrth aelodau y bydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn asesu cynnydd Llywodraeth y DU o ran gweithredu’r Confensiwn yn ddiweddarach eleni. Mae’n gyfle i rai â diddordeb gyflwyno eu hadroddiadau cysgodol eu hunain ar y cynnydd neu fel arall. Mae Anabledd Cymru wrthi’n llunio adroddiad cysgodol gan drafod â chyrff ambarél yn y gwledydd datganoledig eraill.  Bydd fersiwn ddrafft yn cael ei dosbarthu er mwyn i bobl gyflwyno sylwadau arni.

 

 

Mynediad at Waith yn dilyn o gyfarfod yr Adran Gwaith a Phensiynau 12 Mai (Owen Williams, Vision in Wales)

 

Yn dilyn digwyddiad y grŵp trawsbleidiol ar thema ‘Cyflogaeth’, cynhaliwyd cyfarfod gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i drafod y gwasanaeth Mynediad at Waith. Mae Mynediad at Waith yn lleihau nifer y lleoliadau ar draws y DU o 70+ i 3.  Bydd 150 o gynghorwyr yn cael eu hadleoli yn yr Adran Gwaith a Phensiynau neu byddant yn diswyddo’n wirfoddol.  Bydd yr arbenigwyr yn cael eu disodli a chynigir hyfforddiant ar anabledd yn fewnol. 

 

Ymysg rhai o’r pryderon a nodwyd yn y cyfarfod oedd asesiadau yn cael eu darparu dros y ffôn (ymdriniwyd â 2/3 o ymholiadau dros y ffôn), staff ddim yn deall anghenion cleientiaid yn ddigonol (hyfforddiant arbenigol) a’r amser aros cyfartalog ar gyfer asesiad cychwynnol, a oedd yn 7 wythnos mewn rhai achosion.

 

Roedd yn falch o ddweud bod Mynediad at Waith yn awyddus i fynd i’r afael â’r materion a bydd yn parhau i gyfarfod â’r grŵp bob tri mis. 

 

 

Prosiectau Anabledd Cymru - Rhian Davies

Dywedodd RD wrth yr aelodau am ddau brosiect y mae Anabledd Cymru wrthi’n eu gwneud.

 

- Galluogi Cymru

Ariennir drwy Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw datblygu dwy ganolfan newydd ar gyfer byw’n annibynnol yng Nghymru yn ogystal â rhwydwaith pobl ifanc anabl. Partneriaid y prosiect yw Canolfan Cydweithredol Cymru a DEWIS CIL.

 

- Sefydliadau Cydweithredol a Gyfarwyddir gan Ddinasyddion Cymru.

Ariennir drwy Grant Arloesedd y Gronfa Loteri Fawr, a bydd yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol, sefydliadau anabledd, cynlluniau cymorth taliadau uniongyrchol, yn ogystal â phobl anabl a’u teuluoedd ledled Cymru i sefydlu o leiaf un sefydliad cydweithredol a gyfarwyddir gan ddinasyddion i helpu pobl i reoli eu taliadau uniongyrchol.

 

Maent yn recriwtio ar gyfer y ddwy swydd ar hyn o bryd.

 

Cam i’w gymryd: Pob aelod i godi proffil Confensiwn y Cenhedloedd Unedig wrth eu gwaith.

 

Y cyfarfod nesaf:

3 Medi, Canolfan Fusnes Conwy, Gogledd Cymru.

Thema – ‘Cyflogaeth ac Anabledd’.